Jeff Cuthbert AC
Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi
Llywodraeth Cymru
29 Gorffennaf 2014
Annwyl Weinidog
Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru)
Yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 16 Gorffennaf, trafododd y Pwyllgor oblygiadau ariannol y Bil hwn. Roedd gan yr Aelodau nifer o ymholiadau yr hoffem gael eich barn arnynt.
Mae Atodiad A yn cynnwys manylion am y meysydd yr hoffem eich ymateb arnynt. Rwyf hefyd yn anfon copi o'r llythyr hwn at Alun Ffred Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd.
Yn gywir,
Jocelyn Davies AC
Cadeirydd
Atodiad A
Effaith Comisiwn Williams ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus
Mae'r costau a geir yn y Bil ar Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn seiliedig ar sefyllfa bresennol y 22 o awdurdodau lleol a'r 19 o Fyrddau Gwasanaeth Lleol, a chânt eu rhannu rhwng awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus penodol eraill. Os caiff argymhellion y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus eu datblygu a bod awdurdodau lleol yn uno, yna byddai llai o Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, ac fel mae'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn nodi, byddai unrhyw gostau'n lleihau'n unol â hynny.
Mae'r Pwyllgor yn gofyn ichi roi manylion am p'un a fyddai'n ofynnol i awdurdodau lleol sydd wedi uno'n ddiweddar lunio asesiadau a chynlluniau llesiant lleol newydd a sefydlu Pwyllgorau Craffu newydd, yn ogystal ag a oes unrhyw asesiad o arbedion posibl wedi'i wneud.
Costau i gyrff cyhoeddus penodol
Mae'r Memorandwm Esboniadol yn nodi y disgwylir i'r costau i gyrff cyhoeddus yng Nghymru o fodloni gofynion y Bil gael eu talu gan ddefnyddio'r adnoddau presennol ar gyfer pennu amcanion corfforaethol ac adrodd arnynt. Mae'r Memorandwm hefyd yn egluro bod Llywodraeth Cymru wedi comisiynu gwaith ymchwil i sefydlu'r costau llinell sylfaen ar gyfer pennu amcanion strategol o fewn sefydliadau. Mae'r Memorandwm yn nodi y bydd gan Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus gostau cynyddol o tua £537,000 dros bum mlynedd gyntaf y Bil ar gyfer mynd i gyfarfodydd, cyhoeddi asesiadau llesiant a threfniadau craffu ychwanegol.
Byddai'r Pwyllgor yn gwerthfawrogi cael manylion am unrhyw drafodaethau a gafwyd gyda'r cyrff cyhoeddus penodol i ddilysu'r ffigurau hyn i weld a ydynt yn realistig ac a ydynt o'r farn y gallai'r costau arwain at yr angen i ailflaenoriaethu i ffwrdd o adnoddau'r rheng flaen.
Ffioedd archwilio ychwanegol
Mae'r Memorandwm yn egluro, yn ôl y gyfraith, bod yn rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru godi ffioedd am archwilio cyfrifon llywodraeth leol a chyrff cyhoeddus eraill. O dan ddarpariaethau'r Bil, bydd yr Archwilydd yn archwilio'r cyrff cyhoeddus penodol, gyda datblygu cynaliadwy yn un o'r prif egwyddorion. Mae'r Memorandwm yn nodi nad yw wedi bod yn bosibl i ddarparu ffigurau ar gyfer y ffioedd archwilio a godwyd ar bob corff unigol a fydd yn destun dyletswyddau'r Bil.
Mae'r Pwyllgor yn gofyn ichi roi manylion am unrhyw gostau ychwanegol y gellid disgwyl i gyrff cyhoeddus penodol eu talu i archwilio eu cyfrifon.
Adroddiad PricewaterhouseCoopers (PWC)
Mae paragraff 327 o'r Memorandwm yn nodi y comisiynwyd PWC i asesu effaith weinyddol y ddeddfwriaeth ar gyrff cyhoeddus sy'n destun y Bil, ond - er ei fod wedi nodi'r angen am newid diwylliannol o fewn sefydliadau, arweinyddiaeth well a gweithio'n well rhwng partneriaethau - ni allai roi asesiad meintioledig o'r costau dan sylw. Mae'r Memorandwm yn egluro'r canlynol mewn perthynas â'r sefydliadau a gyfrannodd at waith ymchwil PWC:
The organisations who took part in the research were not able to establish a baseline position in relation to their current cultures and behaviours and as a result PWC were unable to provide even a broad estimate of the likely costs associated with cultural change7.
Daw adroddiad PWC i'r casgliad bod manteision y Bil yn gwrthbwyso'r effeithiau gweinyddol negyddol sy'n gysylltiedig â gweithredu'r Bil yn sylweddol.
Byddai'r Pwyllgor yn ddiolchgar pe gallech amcangyfrif y gost o weithredu newidiadau diwylliannol mewn awdurdodau cyhoeddus penodol.